Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod

Menywod a’r system gyfiawnder

Dydd Gwener 14 Gorffennaf 2023, drwy gyfrwng Zoom, 11:30–12:30

 

 

Yn bresennol:

Siân Gwenllian AS

Jane Hutt AS (Siaradwr)

Jane Dodds AS

Sioned Williams AS

Dr Robert Jones, Prifysgol Caerdydd (Siaradwr)

Leah Reed, Prifysgol Caerdydd (Siaradwr)

Dr Rachel Minto, Prifysgol Caerdydd (Siaradwr)

Dr Jo Roberts, Prifysgol De Cymru

Abi Thomas, Plaid Cymru

Alison Parken, Ysgol Busnes Caerdydd

Jane Fenton-May, Cynulliad Merched Cymru

Chris Dunn, Diverse Cymru

Megan Thomas, Anabledd Cymru

Sarah Thomas, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched

Stephanie Grimshaw, Cymorth i Ferched Cymru

Tanya Harrington, Stonewall Cymru

Tomos Evans, Chwarae Teg

Hade Turkmen, Oxfam Cymru

Rhianydd Williams, TUC Cymru

Rhianon Bragg

Wanjiku Mbugua-Ngotho, Bawso

Dr Larissa Peixoto, Prifysgol Caerdydd

Leanne Waring, Coleg Caerdydd a’r Fro

Kirsty Hudson

Gary Haggaty, Llywodraeth Cymru

Sarah Evans, Llywodraeth Cymru

Simon Borja, Cymru Ddiogelach

Ioan Bellin, Plaid Cymru

Andrew Misell, Alcohol Change UK

Merisha Weeks, Llywodraeth Cymru

Emma Henwood, Chwaraeon Cymru

Will Davies, Senedd

Steffan Bryn, Llywodraeth Cymru

Hannah King

Vera Baird

Catherine Brannigan, Sefydliad Waterloo

Megan Evans, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

Jessica Laimann, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

 

Ymddiheuriadau:

Heledd Fychan AS

Sara Kirkpatrick, Cymorth i Ferched Cymru

 


 

1

 

Croeso, Ymddiheuriadau, Cyflwyniad – Cadeirydd

 

Croesawodd Siân Gwenllian AS bawb a dywedodd y byddai'r cyfarfod yn canolbwyntio ar brofiadau menywod yn y system gyfiawnder, gyda ffocws penodol ar garcharu a chyd-destun datganoli yng Nghymru. 

 


 

2

 

‘On the Jagged Edge’ – profiadau menywod Cymru o gael eu carcharu

Dr Robert Jones a Leah Reed, Prifysgol Caerdydd

 

Croesawodd y cadeirydd Dr Robert Jones, darlithydd ar system cyfiawnder troseddol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a chydawdur The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge, ynghyd a Leah Reed, ymgeisydd doethuriaeth mewn troseddeg y mae ei hymchwil yn anelu at gynhyrchu'r astudiaeth empirig fanwl gyntaf o garcharu menywod yng Nghymru.

 

Nododd Robert gyd-destun cyffredinol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Er gwaethaf pwysigrwydd datganoli mewn meysydd fel iechyd, tai, addysg a gofal cymdeithasol, mae Cymru’n parhau i fod yn rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr, ac felly’n rhan o gylch gwaith Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae datganoli wedi golygu bod angen meddwl am Gymru fel gofod ar wahân yng nghyd-destun y system cyfiawnder troseddol.

 

Y prif honiad yn On the Jagged Edge yw bod rôl Cymru yn system Cymru a Lloegr wedi newid yn sylfaenol ac nad yw bellach yn gwneud synnwyr i feddwl am system Cymru a Lloegr fel un. Mae system cyfiawnder troseddol penodol i Gymru eisoes yn dod i'r amlwg ac mae angen gwell dealltwriaeth o hyn a'r problemau niferus sy'n wynebu cymunedau Cymru.

 

Aeth Leah ymlaen i egluro natur carcharu menywod o fewn y cyd-destun hwn. Ychydig iawn o dystiolaeth empirig oedd ar brofiad menywod yng Nghymru gan mai “Lloegr a Chymru” oedd yr uned ddadansoddi amlycaf o hyd. Ond roedd cydnabyddiaeth bod menywod Cymru yn wynebu set benodol o heriau, er enghraifft nid oedd carchar i fenywod yng Nghymru, a oedd yn golygu bod menywod a oedd wedi'u carcharu yn Lloegr wedi'u hynysu oddi wrth eu ffrindiau a'u teuluoedd, a oedd yn ei chael hi’n anodd ymweld â nhw yn aml.

 

Mae menywod Cymru yn y system garchardai yn anweledig mewn dwy ffordd. Mae menywod yn gyffredinol yn aml yn anweledig mewn dadleuon academaidd ar garcharu, ac mae Cymru’n cael ei gwneud yn anweledig yng nghyd-destun “Cymru a Lloegr”. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod gan Gymru’r cyfraddau uchaf ond un o fenywod yn y carchar ar draws rhanbarthau Cymru a Lloegr, gyda’r rhan fwyaf o ddedfrydau am lai na chwe mis.

 

Esboniodd Robert, gan mai dim ond 5.2% o boblogaeth y DU sy’n byw yng Nghymru, ychydig o sylw mae’n ei gael gan lunwyr polisi’r DU, a bod diffyg strwythurau clir ar gyfer atebolrwydd democrataidd a chraffu dros y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Roedd polisïau’r Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn anwybyddu’r cyd-destun Cymreig yn rheolaidd ac ychydig iawn o ddylanwad oedd gan gyrff sy’n wynebu Cymru fel Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru ar lunio polisïau. Roedd system “Lloegr a Chymru” yn ei hanfod yn parhau i fod yn system Seisnig lle’r oedd Cymru yn ôl-ystyriaeth yn rhy aml. 

 

Mae hyn yn arwain at rwystredigaeth anochel wrth geisio gweithredu polisi penodol, megis ffocws Llywodraeth Cymru ar atal a lleihau niwed yn hytrach na throseddoli a chosbi, gan gynnwys yng nghyd-destun troseddu gan fenywod.

 

I grynhoi, mae gan Gymru ei system cyfiawnder troseddol penodol ei hun, ac mae ei chanlyniadau’n gymharol wael. Mae llunio polisïau effeithiol yn heriol iawn oherwydd y cyd-destun cyfansoddiadol, ac mae’r broblem hon yn cael ei gwaethygu gan strwythurau craffu ac atebolrwydd gwan. Mae angen dybryd i ddeall yn well y problemau sy’n wynebu Cymru, menywod Cymru, a chymunedau Cymreig.

 

3

Ymateb gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

 

Diolchodd y Cadeirydd i Robert a Leah am eu cyflwyniad craff, a oedd yn amlygu'r angen dirfawr am newidiadau strwythurol i wella profiad menywod yn y system carchardai. Gwahoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb.

 

Dywedodd y Gweinidog fod yr ymchwil yn On the Jagged Edge wedi helpu i lywio barn Llywodraeth Cymru ynghylch datganoli cyfiawnder, a oedd yn ymrwymiad yn y cytundeb cydweithredu.

 

Tynnodd sylw at y ffaith ei fod yn bwysig ysgogi gwelliannau o fewn y system bresennol, yn ogystal â gwneud yr achos dros ei drawsnewid. Bwriad y glasbrint cyfiawnder menywod oedd cyflawni hyn drwy ddarparu cymorth ymarferol drwy wasanaethau fel y rhaglen fraenaru, mewn cydweithrediad â'r Cwnsler Cyffredinol a chanolfannau menywod yng Nghymru. Dangosodd gwerthusiad diweddar o’r rhaglen fraenaru ei fod yn effeithiol o ran gwella bywydau menywod a oedd yn agored i niwed. Dywedodd y Gweinidog fod ffactorau fel trais domestig, cam-drin sylweddau, problemau iechyd meddwl, trawma a thlodi yn sbarduno troseddu gan fenywod ac na ellid datrys y rhain drwy garcharu. Er nad oedd cyfiawnder troseddol wedi’i ddatganoli, roedd Llywodraeth Cymru yn ariannu amrywiaeth o fentrau, fel y gwasanaeth ymweld â mamau.

 

Tynnodd y Gweinidog sylw at gyfleoedd yng ngoleuni adroddiad Comisiwn Brown yn ogystal â’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i baratoi’r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona a chroesawodd dystiolaeth bellach i gefnogi’r gwaith hwn.

 

4

Trafodaeth a chwestiynau gan y rhai a oedd yn bresennol

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Gweinidog am ei sylwadau, a gofynnodd am gwestiynau a sylwadau gan y rhai a oedd yn bresennol.

 

Dywedodd Vera Baird ei bod, fel cynghorydd annibynnol, yn edrych ar sut i wella’r broses o gosbi troseddwyr benywaidd, gan gynnwys drwy edrych ar y model o ddatganoli rhannol ym Manceinion, lle’r oedd y gwasanaeth prawf yn cael ei gydgomisiynu.

 

Gofynnodd Jessica Laimann (Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru) a oedd tystiolaeth wedi’i dadgyfuno ar gael ar brofiad menywod o grwpiau demograffig gwahanol. Dywedodd Leah, er y byddai ei hymchwil yn darparu rhywfaint o ddata wedi'i dadgyfuno, y byddai angen iddo ganolbwyntio ar drosolwg cyffredinol gyda'r gobaith o ysbrydoli gwaith pellach ar hyn yn y dyfodol.

 

Soniodd Sioned Williams AS am sut mae’n rhaid dibynnu ar geisiadau rhyddid gwybodaeth er mwyn cael mynediad at ddata perthnasol a gofynnodd a oedd unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i wella mynediad yn hynny o beth. Nododd Robert mai gwneud ceisiadau rhyddid gwybodaeth yw’r brif ffordd o gael data o hyd, ac mae dyna sut y mae hi ers degawd. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi paratoi rhestr o ddata gofynnol ar gyfer Llywodraeth y DU. Cadarnhaodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ei bod yn trafod hyn gyda Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ac y byddai'n hapus i roi diweddariad ar hyn i’r grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol.

 

Adleisiodd Larissa Peixoto (Prifysgol Caerdydd) bryderon ynghylch mynediad at ddata ac ychwanegodd mai anhawster arall oedd defnyddio samplau Cymru a Lloegr heb unrhyw ddata wedi’i dadgyfuno ar gyfer Cymru. Yn ogystal â data agored, roedd angen samplu gwell ar gyfer Cymru er mwyn gwella ein sylfaen dystiolaeth a chreu gwell polisi.

 

Tynnodd Jane Fenton-May (Cynulliad Merched Cymru) sylw at yr angen am dai diogel i fynd i’r afael ag aildroseddu rheolaidd.

 

Pwysleisiodd Wanjiku Mbugua-Ngotho (Bawso) fod carcharorion benywaidd du ac o leiafrifoedd ethnig yn cynnwys dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a oedd yn amddiffyn eu hunain ond nad oedd eu tystiolaeth yn cael ei hystyried oherwydd rhwystrau iaith. Roedd Bawso yn bwriadu dechrau gweithio gyda charcharorion benywaidd yng ngharchar Eastwood Park i ddeall effaith yr anfantais ddwbl oherwydd gwahaniaethu, hiliaeth, a’r diffyg cyfathrebu rhwng yr heddlu a dioddefwyr yng nghyd-destun trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

 

4

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Menywod yn Ewrop (Cymru)

Dywedodd Dr Rachel Minto fod Pwyllgor Senedd Ewrop ar Hawliau Menywod a Chydraddoldeb Rhywiol wedi derbyn adroddiad drafft ar reoleiddio puteindra yn yr UE. Galwodd yr adroddiad am ddull Ewrop gyfan o fynd i’r afael â phuteindra drwy ddad-droseddoli puteindra a chefnogi’r rhai sydd am adael y proffesiwn, wrth dargedu prynwyr a thrydydd partïon a oedd yn cymryd mantais ohonynt. Roedd modelau tebyg eisoes wedi'u mabwysiadu yn Ffrainc, Sweden ac Iwerddon.

Dau ddigwyddiad allweddol ar gyfer 2024 oedd Etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mehefin a diwedd tymor cyntaf yr arlywydd Ursula von der Leyen. Roedd Von der Leyen wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng ngwaith y Comisiwn a cheisiodd ei integreiddio mewn cynigion polisi mawr fel y Fargen Werdd Ewropeaidd a rhaglen adfer Covid.

 

5

Unrhyw fater arall

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf:  15 Medi 2023.

 

6

Diwedd